please load a web browser to log in.

Prifysgol Abertawe

Wi-Fi i Staff a Myfyrwyr



Cofrestru Dyfais

Mae angen i fyfyrwyr/staff gofrestru pob dyfais i'w defnyddio ar rwydweithiau Wi-Fi ym Mhrifysgol Abertawe.

Dylech gysylltu â rhwydwaith SwanseaUni-Setup WiFi i gofrestru eich dyfais lle y bo'n bosib.
Ffurflen Gofrestru
Bydd angen cyfeiriad MAC 12 o nodweddion wedi'i rannu gan : neu -

eduroam logo

eduroam

Mae'r rhwydwaith eduroam yn rhwydwaith diwifr ar gyfer gliniaduron/cyfrifiaduron/ffonau symudol myfyrwyr/staff sy'n gwneud defnydd o dechnolegau mwy diogel ac effeithiol na'r rhwydwaith SWIS-Play. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio amgryptio WPA/WPA2 a dilysiad 802.1x. Mae eduroam yn cefnogi ystod o ddyfeisiau a dylid ei ddefnyddio ar gyfer popeth heblaw am ddyfeisiau chwarae gemau a dyfeisiau ar ffurf rhyngrwyd pethau.

eduroam logo

SwanseaUni-Visitors

Dylai ymwelwyr gysylltu â rhwydwaith Wi-Fi SwanseaUni-Visitors sydd ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn rhai academaidd ac mae ganddo fynediad llawer mwy cyfyngedig nag eduroam. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

university logo

SwanseaUni-Play

Rhwydwaith Play ar gyfer consolau gemau, dyfeisiau Wi-Fi megis Amzon Echo/Dot ayyb. Nid oes gan y rhwydwaith hwn yr un nodweddion diogelwch ag eduroam ac mae wedi'i anelu at ddyfeisiau chwarae gemau a rhyngrwyd pethau. Mae'n defnyddio'r un lefel o ddiogelwch â rhwydwaith yn y cartref gan gynnwys cyfrinair a rennir. I gofrestru, cwblhewch y ffurflen gofrestru a gosodwch y math o ddyfais i Gaming neu Other.

printer

SwanseaUni-Commercial

Rhwydwaith masnachol i bartneriaid masnachol y Brifysgol. Os ydych chi'n bartner masnachol i'r Brifysgol ac mae angen mynediad arnoch chi yna cysylltwch â y Ddesg Gwasanaeth TG.

seating

Lleoliadau

Mae'r rhwydwaith eduroam ar gael ym mhob adeilad ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae. Mae pob llety'r Brifysgol yn derbyn cysylltiad â rhwydwaith eduroam. Nid yw rhwydwaith SwanseaUni-Play ar gael yn llety Campws y Bae. Mae rhwydwaith SwanseaUni-Visitors ar gael yn y mwyafrif o leoliadau ym mhob campws ac eithrio'r llety.

ESRI building