Mae Rhwydwaith Ymwelwyr Prifysgol Abertawe ar gael i ymwelwyr a gwesteion nad oes ganddynt gyfrifon academaidd yn y Brifysgol. Ni ddylai staff a myfyrwyr ddefnyddio'r rhwydwaith hwn - dylent ddefnyddio eduroam. Mae'r rhwydwaith ar gael ar Gampws y Bae a Champws Parc Singleton.
Y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw edrych ar y rhestr gyfan o rwydweithiau diwifr sydd ar gael ar eich dyfais, yna cysylltwch â'r rhwydwaith agored SwanseaUni-Visitors SSID. Ar ôl i chi gysylltu â'r rhwydwaith dylech dderbyn neges yn gofyn i chi fewngofnodi. Os na fydd neges yn ymddangos, agorwch borwr a theipiwch yr URL https://socialwifi.swansea.ac.uk
Ar ôl i chi gysylltu gallwch chi ddefnyddio'r rhyngrwyd ond dylech chi gadw mewn cof bod rhai cyfyngiadau mewn lle. Mae cynnwys i oedolion a chynnwys anweddus wedi'i flocio. Mae cysylltiadau wedi'u cyfyngu i 4Mbs y ddyfais a chewch eich datgysylltu ar ôl 4 awr o segurdod.